Canwr, athro a chenedlaetholwr bu'n canu deuawdau gyda Dafydd Iwan ac a recordiodd sawl cân arall From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Edward Morus Jones (sillafiad bedydd, Edward Morris Jones; ganed mis 22 Mai 1944[1]) yn berfformiwr ac athro ddaeth yn adnabyddus yn yr 1960au wrth ganu deuawd gyda Dafydd Iwan. Bu i'r ddau recordio nifer o ganeuon protest a adnabyddus iawn a hefyd recordio record hir o ganeuon digri a hwiangerddi i blant bach ar ddau albwm Cwm-Rhyd-y-Rhosyn. Bu'n athro ac yn ymgyrchydd dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Edward Morus Jones | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1944 Llanuwchllyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, canwr |
Arddull | Pop Cymraeg, Canu gwerin |
Plant | Rhun ap Iorwerth |
Mab fferm yw Edward Morus Jones a aned yn Llanuwchllyn, ger y Bala ac astudiodd yn Ysgol y Bechgyn y Bala a'r Coleg Normal ym Mangor.[2] Derbyniodd Edward a’i ddiweddar wraig Gwyneth, a gyfrannodd lawer hefyd i fywyd diwylliannol ac addysgol Cymru, gydnabyddiaeth unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003. Dyma’r unig dro i ŵr a gwraig gael eu harwisgo ar yr un diwrnod ag Urdd Gwisg Wen Gorsedd y Beirdd, ei huchaf anrhydedd. Yn 2016 priododd Edward â Mary Roberts Glassman Jones.
Darganfu ei angerdd fel addysgwr yn gynnar yn ei fywyd gan ddysgu mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch mewn sawl lleoliad yng Ngogledd a De Cymru.[3]
Mae'n dad i Aelod Senedd Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a'r darlithydd meddygaeth a lladmerydd dros addysg feddygol yn y Gymraeg, Awen Iorwerth.[4]
Mae’r cysylltiad trawsatlantig ym mywyd Edward wedi’i wella’n fawr gan ei briodas â Mary Roberts Glassman yn 2016. Mae ganddi wreiddiau Crynwyr yn y 1600au yng Nghymru, dim ond deng milltir o’r man lle magwyd Edward.[3]
Un o'i gyfraniadau bwysicaf oedd recordio, gyda Dafydd Iwan, record o gerddoriaeth plant gyda’r caneuon a recordiwyd ar gyfer cyfres “Cwm Rhyd y Rhosyn”.
Mae wedi arwain llawer o Gymanfaoedd Canu dros y blynyddoedd.
Mae'n gadeirydd Eisteddfod y Goron Llandegfan. Enghraifft yw fideo hyfryd o’i arwain plant Ysgol Henblas leol, “Canu Gyda Mr. Edward Morus Jones".
Mae Edward (gyda Gwyneth tan 2012) wedi cymryd rhan mewn deg Gŵyl Gogledd America Cymru (NAFOW).
Bu Edward Morus Jones yn perfformio dros ddegawdau, yn fwyaf enwog gyda Dafydd Iwan ond hefyd ar ben ei hun a gydag artistiaid eraill o bryd i'w gilydd fel Mary Hopkin. Noder mai dan yr enw Edward Morris Jones y cofnodwyd y mwyafrif helaeth o'r caneuon yma.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.