F.K. Partizan Belgrâd
clwb pêl-droed Belgrâd Serbia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Klub Fudbalski Partizan (Serbeg: Фудбалски клуб Партизан) neu Partizan Belgrâd yn un o glybiau pêl-droed mwyaf llwyddiannus Serbia. Mae ei bencadlys yn ninas Belgrâd, prifddinas y wlad. Sefydlwyd y clwb ar 4 Hydref 1945, fel tîm milwrol o Fyddin Pobl Iwgoslafia (JNA). Mae'r clwb pêl-droed bellach yn ffurfio rhan ganolog o JSD JSD Partizan, sy'n glwb aml-gamp.[2]
Enw llawn | Fudbalski klub Partizan Фудбалски клуб Партизан | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | Црно-бели / Crno-beli (Y Du-Gwynion) Парни ваљак / Parni valjak (Y Stêm-roler | |||
Sefydlwyd | 4 Hydref 1945; 78 o flynyddoedd yn ôl (1945-10-04) | |||
Maes | Stadiwm Partizan, Belgrâd (sy'n dal: 32,710[1]) | |||
President | Milorad Vučelić | |||
Prif Hyffordwr | Savo Milošević | |||
Cynghrair | SuperLiga | |||
2022–23 | 4. | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Tymor cyfredol |
Prif wrthwynebwyr y clwb Seren Goch Belgrâd. Mae'r gêm ddarbi rhwng y ddau dîm ymysg y ymrafael mwyaf ffyrnig yn Ewrop a gall fod yn dreisgar, gelwir hi y 'Darbi Tragwyddol' (Вечити дерби, Večiti derbi).[3]
Stadiwm cartref y clwb ers 1949 [4] y Stadiwm Partizan (Stadion Partizana), a gelwir hefyd "Y Deml", sydd â lle i 32,887 o wylwyr. Mae'r stadiwm hefyd yn cael ei alw'n Stadion JNA (Stadiwm Byddin Pobl Iwgoslafia). Etifeddwyd y stadiwm o'r hen glwb, BSK Belgrâd, a ddiddymwyd yn ystod y rhyfel, ac a ffurfiodd yn ddiweddarach y OFK Belgrâd.
Lliwiau'r clwb yw ddu a gwyn, ac oherwydd hynny gelwir eu cefnogwyr yn "Torwyr Beddi" (Grobari, yn Serbeg). Ond yn 13 mlynedd gyntaf y clwb, pan oedd yn adain o'r Fyddin, y lliwiau oedd glas a choch (a dyma'r cit oddi cartref gyfredol).
Ers ymraniad Iwgoslafia, dyma'r clwb sydd â'r nifer uchaf o deitlau yn y bencampwriaeth genedlaethol (enillodd 9 o 17 rhifyn, yn erbyn 7 o'r Seren Goch).