Ffiseg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae ffiseg (o'r Groeg φυσικός, "naturiol", a φύσις, "natur") neu anianeg (term hynafol am "ddeddfau neu drefn natur") yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio. Astudiaeth o fater ydyw ynghyd â chysyniadau perthnasol eraill e.e. ynni a grym a'i amcan yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.[1][2]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, union wyddoniaeth |
---|---|
Math | gwyddoniaeth naturiol |
Rhan o | gwyddoniaeth ffisegol |
Yn cynnwys | astroffiseg, ffiseg arbrofol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Ffeithiau sydyn Canghennau, Meusydd Ymchwil ...
Ffiseg | ||||||||||
Dewislen Ffiseg | ||||||||||
Hanes Ffiseg
| ||||||||||
Cau
Mae ffiseg yn:
- disgrifio cyfansoddiad elfennol y bydysawd;
- disgrifio'r rhyngweithiadau rhwng elfennau'r bydysawd;
- dadansoddi systemau drwy ddefnyddio egwyddorion sylfaenol.
Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.
Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.