![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/71/%25D0%25A4%25D1%2583%25D0%25BC%25D0%25B0%25D1%2580%25D0%25BE%25D0%25BB%25D1%258B_%25D0%25B2%25D1%2583%25D0%25BB%25D0%25BA%25D0%25B0%25D0%25BD%25D0%25B0_%25D0%259C%25D1%2583%25D1%2582%25D0%25BD%25D0%25BE%25D0%25B2%25D1%2581%25D0%25BA%25D0%25B8%25D0%25B9.jpg/640px-%25D0%25A4%25D1%2583%25D0%25BC%25D0%25B0%25D1%2580%25D0%25BE%25D0%25BB%25D1%258B_%25D0%25B2%25D1%2583%25D0%25BB%25D0%25BA%25D0%25B0%25D0%25BD%25D0%25B0_%25D0%259C%25D1%2583%25D1%2582%25D0%25BD%25D0%25BE%25D0%25B2%25D1%2581%25D0%25BA%25D0%25B8%25D0%25B9.jpg&w=640&q=50)
Ffwmarol
twll yng nghramen y Ddaear sy'n rhyddhau stêm a nwyon i'r atmosffer / From Wikipedia, the free encyclopedia
Twll yng nghramen y Ddaear sy'n rhyddhau stêm a nwyon i'r atmosffer yw ffwmarol. Mae'r stêm yn cael ei ffurfio pan fydd dŵr daear wedi'i dra-phoethi yn cyddwyso wrth iddo ymddangos i'r awyr. Mae'r nwyon yn debygol o gynnwys carbon deuocsid, sylffwr deuocsid, hydrogen clorid, a hydrogen sylffid. Gall ffwmarolau ddigwydd ar hyd craciau bach, ar hyd holltau hir, neu mewn clystyrau anhrefnus.
Ffeithiau sydyn Math ...
![]() | |
Math | ffenomen folcanig, tirffurf ![]() |
---|---|
![]() |
Cau
Mewn rhai rhannau o'r byd, mae ffwmarolau yn allyrru anweddau sylffyraidd sy'n ffurfio dyddodion arwynebol. Gellir eu cloddio yn fasnachol.
- Ffwmarol yn Námafjall, Gwlad yr Iâ
- Ffwmarol ar ochr llosgfynydd mud Solfatara ger Napoli, yr Eidal, sydd wedi dyddodi sylffwr ar y creigiau
- Ffwmarolau ar ochr llosgfynydd Mynydd Fourpeaked, Alaska