Giovanni Battista Pergolesi
cyfansoddwr a aned yn 1710 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr a feiolinydd o'r Eidal oedd Giovanni Battista Pergolesi (4 Ionawr 1710 – 16 Mawrth 1736).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Giovanni Battista Pergolesi | |
---|---|
Ganwyd | Giovanni Battista Draghi 4 Ionawr 1710 Jesi |
Bu farw | 16 Mawrth 1736 Pozzuoli |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, organydd |
Arddull | opera |
Mudiad | cerddoriaeth faróc |
Cau
Mwynhaodd Pergolesi dim ond llwyddiant cyfyngedig yn ystod ei fywyd byr, ond yn fuan ar ôl ei farw enillodd ei waith enwogrwydd mawr ledled Ewrop. Yn arbennig, fe berfformiwyd ei opéra buffa La serva padrona lawer gwaith, a'i Stabat mater oedd y darn o gerddoriaeth a argraffwyd yn fwyaf aml yn y 18g. Daeth ei waith mor boblogaidd bod llawer o ddarnau gan gyfansoddwyr eraill wedi'u priodoli'n anghywir iddo.