Gorllewin Canolbarth Lloegr (rhanbarth)
rhanbarth swyddogol Lloegr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Gorllewin Canolbarth Lloegr (Saesneg: West Midlands), sy'n gorchuddio hanner gorllewinol y rhanbarth traddodiadol a adwaenir fel Canolbarth Lloegr.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | rhanbarthau Lloegr, ITL 1 statistical regions of England |
---|---|
Prifddinas | Birmingham |
Poblogaeth | 5,602,000, 5,934,037 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 13,004 km² |
Yn ffinio gyda | De-orllewin Lloegr, De-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.47°N 2.29°W |
Cod SYG | E12000005 |
Cau
- Peidiwch â chymysgu y rhanbarth hwn â Gorllewin Canolbarth Lloegr (sir), sy'n un o'r siroedd ynddo.
Mae'n cynnwys chwe sir seremonïol:
- Gorllewin Canolbarth Lloegr (sir)
- Swydd Amwythig
- Swydd Gaerwrangon
- Swydd Henffordd
- Swydd Stafford
- Swydd Warwick
Mae daearyddiaeth y rhanbarth yn amrywiol, o'r ardaloedd trefol canolog i'r siroedd gwladol yn y gorllewin, sef Swydd Amwythig a Swydd Henffordd, sy'n ffinio â Chymru. Mae'r afon hiraf ym Mhrydain, Afon Hafren, yn mynd trwy'r rhanbarth tua'r de-ddwyrain, gan lifo trwy drefi sirol Amwythig a Chaerwrangon, yn ogystal â'r Ironbridge Gorge, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.