Gwalch y pysgod
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn ysglyfaethus yn byw yn bennaf ar bysgod yw Gwalch y pysgod (enw gwyddonol: Pandion haliaetus). Mae ganddo ddosbarthiad eang iawn trwy'r byd, ac yn un o'r ychydig adar sydd i'w cael ar bob cyfandir heblaw yr Antarctig. Mae'n 60 cm mewn hyd a 180 cm o adain i adain. Brown ydy rhan uchaf ei gorff a'r rhan isaf yn wyn; mae ymylon ei lygaid a'i esgyll yn blu du.
Gwalch y pysgod Pandion haliaetus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Pandionidae |
Genws: | Pandion[*] |
Rhywogaeth: | Pandion haliaetus |
Enw deuenwol | |
Pandion haliaetus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Gall blymio i'r dŵr ar gyflymder uchel i ddal ei ysglyfaeth gyda'i grafangau. Mae sbigau bychain ar ei draed sy'n ei gynorthwyo i afael yn y pysgodyn. Yn Ewrop mae Gwalch y pysgod yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yng ngorllewin Affrica.
Mae'n nythu gerllaw llynnoedd ac afonydd fel rheol, ond ambell dro gerllaw dwr hallt. Ran amlaf mae'r nyth, sy'n gasgliad sylweddol iawn o frigau, mewn coeden, ond gall nythu ar lawr os yw mewn lle diogel, er enghraifft ar ynys fechan ynghanol llyn.
Diflannodd yr aderyn ysglyfaethus hwn o wledydd Prydain yn 1916; cafodd ei ddifa'n llwyr o'r Alban yn nechrau'r 20g gan erledigaeth dyn: saethu a chasglu wyau, ond dychwelodd y gwalch i nythu yno yn y 1950au ac erbyn 2012 roedd yno mwy na 200 o barau.