![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5a/%25D0%2594%25D1%2580%25D0%25B5%25D0%25B2%25D0%25BD%25D0%25B8%25D0%25B9_%25D0%25B3%25D0%25BE%25D1%2580%25D0%25B4_%25D0%25A6%25D0%25B8%25D0%25BC%25D0%25B8%25D1%2582%25D0%25B8_03.jpg/640px-%25D0%2594%25D1%2580%25D0%25B5%25D0%25B2%25D0%25BD%25D0%25B8%25D0%25B9_%25D0%25B3%25D0%25BE%25D1%2580%25D0%25B4_%25D0%25A6%25D0%25B8%25D0%25BC%25D0%25B8%25D1%2582%25D0%25B8_03.jpg&w=640&q=50)
Gogledd Osetia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gweriniaeth yn y Cawcasws sy'n rhan o Ffederasiwn Rwsia yw Gogledd Osetia neu Gweriniaeth Gogledd Osetia-Alania (Rwseg: Респу́блика Се́верная Осе́тия–Ала́ния; Oseteg: Республикæ Цæгат Ирыстон — Алани). Yn hanesyddol, mae'n rhan o Osetia, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. Mae ganddi boblogaeth o tua 710,000. Ei phrifddinas yw Vladikavkaz.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
![]() | |
![]() | |
Math | gweriniaethau Rwsia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Vladikavkaz ![]() |
Poblogaeth | 693,098 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | National Anthem of the Republic of North Ossetia–Alania ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Sergei Menyailo ![]() |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Oseteg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws, Dosbarth Ffederal Deheuol ![]() |
Sir | Rwsia ![]() |
Gwlad | Rwsia ![]() |
Arwynebedd | 7,987 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Ingushetia, Tsietsnia, Crai Stavropol, Kabardino-Balkaria, Georgia, De Osetia ![]() |
Cyfesurynnau | 43.18°N 44.23°E ![]() |
RU-SE ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Sergei Menyailo ![]() |
![]() | |
Cau
I'r de mae'n ffinio â Georgia (De Osetia). O fewn Rwsia ei hun mae'n ffinio â Gweriniaeth Kabardino-Balkar, Stavropol Krai, Gweriniaeth Chechnya, a Gweriniaeth Ingushetia.
Er bod De Osetia yn siarad Oseteg mae gwahaniaethau tafodieithol o fewn y rhanbarthau yn achosi pryder am ddyfodol yr iaith.[1]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/04/North_ossetia_map.png/200px-North_ossetia_map.png)
Ei phwynt uchaf y Mynydd Dzhimara (4780 m).