![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/24/Gulf_of_Carpentaria-MODIS_250m.jpg/640px-Gulf_of_Carpentaria-MODIS_250m.jpg&w=640&q=50)
Gwlff Carpentaria
From Wikipedia, the free encyclopedia
Môr mawr, bas wedi'i amgáu ar dair ochr gan ogledd Awstralia ac wedi'i ffinio i'r gogledd gan Fôr Arafura yw Gwlff Carpentaria. Mae ganddo arwynebedd o 120,000 milltir sgwâr (310,000 km²) a dyfnder mwyaf o 230 troedfedd (70 m).
![]() | |
Math | gwlff ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Carpentaria ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Arafura ![]() |
Gwlad | Awstralia ![]() |
Arwynebedd | 300,000 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 13.75°S 139°E ![]() |
![]() | |
Amgaeir y gwlff ar y gorllewin gan Tir Arnhem ac i'r dwyrain gan Benrhyn Esfrog. Llawr y môr yw'r silff gyfandirol sy'n cysylltu Awstralia â Gini Newydd. Mae'r tiroedd sy'n ffinio â'r gwlff yn wastad ac yn isel; maent yn disgyn tuag at y môr mewn cwymp graddol iawn o ddim ond un troedfedd y filltir. Mae mwy nag 20 afon yn draenio i Gwlff Carpentaria; maent yn ymdroelli'n helaeth yn eu cyrsiau ac mae ganddynt deltâu mawr.
Archwilwyr Ewropeaidd cyntaf y gwlff oedd Iseldirwyr a ddarganfuodd yr arfordir dwyreiniol rhwng 1605 a 1628. Darganfu'r fforiwr Abel Tasman yr arfordiroedd deheuol a gorllewinol ym 1644. Enwir y gwlff ar ôl Pieter de Carpentier, a oedd yn Llywodraethwr Cyffredinol yr Cwmni India'r Dwyrain yr Iseldiroedd (1623–7).