From Wikipedia, the free encyclopedia
Rheolau swyddogol yw cyfraith, neu y gyfraith, sydd i'w darganfod mewn cyfansoddiadau a deddfwriaethau, a ddefnyddir i lywodraethu cymdeithas ac i reoli ymddygiadau ei haelodau. Yng nghymdeithasau modern, bu corff awdurdodedig megis senedd neu lys yn gwneud y gyfraith. Caiff ei chefnogi gan awdurdod y wladwriaeth, sydd yn gorfodi'r gyfraith trwy gyfrwng cosbau addas (gyda chymorth sefydliadau fel yr heddlu).
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | rheol |
Rhan o | cymdeithas, governance |
Yn cynnwys | rheol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Y Llysoedd Barn Brenhinol sy'n delio gyda'r gyfraith droseddol a sifil.[1]
Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw goruchaf lys y DU gyfan (ers 2009) ar gyfer apeliadau cyfraith sifil. Mae ei awdurdod yn gyfyngedig i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[2]
Llys Cyfiawnder Ewrop yw llys rhynglywodraethol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â'i bencadlys yn Lwcsembwrg.
Cyfraith Gyfoes Cymru yw'r term swyddogol am y drefn gyfreithiol ers 1 Ebrill 2007 sy'n caniatau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru greu deddfau yng Nghymru.[3]
Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn San Steffan yn 1914 ond ni ddaeth i rym tan 1920 oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Llys y Sesiwn Fawr oedd y Llys Droseddol dros Gymru rhwng pasio ail Ddeddf Uno 1542 a diddymiad y llys yn 1830.[4]
Roedd Deddfau Uno 1536 a 1543 yn ddwy ddeddf i uno Cymru'n wleidyddol â Lloegr ac i ddisodli'r iaith Gymraeg o unrhyw rôl swyddogol.
Casgliad o hen gyfreithiau yw Cyfraith Hywel a sefydlwyd yn y 10g. Daeth cyfreithwyr ynghyd yn Hendy-gwyn ar Dâf tua 945 i gysoni, diwygio, dileu a chyhoeddi y cyfreithiau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.