Harry Secombe
diddanwr Cymreig (1921-2001) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Difyrrwr (canwr a chomedïwr) o Abertawe oedd Syr Harold Donald Secombe (8 Medi 1921 - 11 Ebrill 2001). Cafodd ei fagu yn Abertawe, yng nghyffiniau'r dociau a gweithiodd fel clerc yn y gwaith dur, gan ganu yng nghôr yr eglwys. Tra'n filwr ym myddin Lloegr yng Ngogledd Affrica a'r Eidal, cafodd y cyfle i ddiddannu. Ar ôl y rhyfel bu'n gweithio yn y "Windmill Theatr", Llundain.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Harry Secombe | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1921 St. Thomas, Abertawe |
Bu farw | 11 Ebrill 2001 Guildford |
Label recordio | Philips Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Math o lais | tenor |
Plant | Andy Secombe |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor |
Cau
Roedd yn ddarlledwr radio a theledu amlwg iawn ac yn aelod o griw'r Goon Show drwy gydol y 1950'au.