![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d1/World_laws_pertaining_to_homosexual_relationships_and_expression.svg/langcy-640px-World_laws_pertaining_to_homosexual_relationships_and_expression.svg.png&w=640&q=50)
Hawliau LHDT yn ôl gwlad neu diriogaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae gan wledydd y byd amrywiaeth o ddeddfau sy'n ymwneud â pherthnasau rhywiol rhwng pobl o'r un rhyw. Mae fwyfwy o gymdeithasau rhyddfrydol, y mwyafrif yn y Gorllewin, yn caniatáu priodasau ac uniadau cyfunryw a phobl LHD i fabwysiadu plant yn gyfreithlon ac yn pasio deddfwriaeth trosedd casineb i ddiogelu hoywon, lesbiaid a deurywiolion, tra bo llawer o wladwriaethau crefyddol, yn enwedig yn y Byd Mwslemaidd, yn cosbi ymddygiad cyfunrywiol rhwng unigolion, sy'n amrywio o ddirwyon i'r gosb eithaf.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d1/World_laws_pertaining_to_homosexual_relationships_and_expression.svg/640px-World_laws_pertaining_to_homosexual_relationships_and_expression.svg.png)
Cyfunrywioldeb yn gyfreithlon Priodasau cyfunryw Uniadau cyfunryw Dim uniadau cyfunryw Cydnabyddir trwyddedau priodas rhyngwladol Cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon Cosb fach Cosb fawr Carchar am fywyd Y gosb eithaf Dim gwybodaeth ar gosb
Yn ogystal â deddfau yn erbyn gweithredoedd cyfunrywiol, mae nifer o wledydd yn ystyried galw person yn gyfunrywiol yn sail ddigonol am achos llys difenwad.