![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a6/Trafalgar_Square%252C_London_2_-_Jun_2009.jpg/640px-Trafalgar_Square%252C_London_2_-_Jun_2009.jpg&w=640&q=50)
Hectr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Hectr neu Hectar ar lafar (symbol:ha) yn uned safonol ychwanegol at yr uned SI, a ddefnyddir i fesur arwynebedd. Caiff ei ddiffinio fel 10,000 metr sgwâr, a chaiff ei ddefnyddio fynychaf i fesur tir. Yn 1795, pan gyflwynwyd y system fetrig cafodd yr are ei ddiffinio fel 100 metr sgwâr; maint yr hectr, felly, oedd cant are, h.y. "hecto" + "are", sef 100 are, neu 0.01 km2.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a6/Trafalgar_Square%2C_London_2_-_Jun_2009.jpg/640px-Trafalgar_Square%2C_London_2_-_Jun_2009.jpg)
Pan ddiwygiwyd y system fetrig yn 1960 drwy gyflwyno System Ryngwladol o Unedau ac Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, penderfynwyd - yn rhyngwladol - i hepgor yr are[1] a chanolbwyntio ar yr hectr.
Mae'n cyfateb i 2.47105 erw neu acer.