Hen ŵr
Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Hen ŵr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Hen ŵr, sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Artemisia abrotanum a'r enw Saesneg yw Southernwood. Fe'i henwyd yn Lladin ar ôl y dduwies Artemis.
Ffeithiau sydyn Artemisia abrotanum, Dosbarthiad gwyddonol ...
Artemisia abrotanum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Artemisia |
Enw deuenwol | |
Artemisia abrotanum Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
|
Cau
Mae'r dail yn llwydwyrdd, yn fyr a chul a phluog. Blodau bychan sydd arno, rhai melyn. Gallwch greu toriadau o'r dail neu'r gwraidd yn hawdd iawn.
Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.
Enw Saesneg arall arno yw lad’s love.