Iaith arwyddion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith sy'n cael ei chyfleu drwy batrymau o arwyddion corfforol yw iaith arwyddion (hefyd iaith arwyddo neu arwyddiaith,[1] yn hytrach na phatrymau sain. Mae'n cyfuno siapiau a chyfeiriad y dwylo, y breichiau neu'r corff ac ystumiau'r wyneb er mwyn cyfleu syniadau'r unigolyn.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | type of language |
---|---|
Math | signed language, manual communication |
Y gwrthwyneb | spoken language |
cod ISO 639-2 | sgn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Ble bynnag mae cymunedau o bobl fyddar, bydd ieithoedd arwyddo yn datblygu. Mae eu gramadeg gofodol cymhleth yn wahanol iawn i ramadeg ieithoedd llafar.[2][3] Defnyddir cannoedd o ieithoedd arwyddo ledled y byd ac maent yn greiddiol i ddiwylliannau y byddar. Mae rhai ieithoedd arwyddo wedi ennill cydnabyddiaeth gyfreithiol, tra nad oes gan eraill statws o gwbl. Iaith Arwyddion Prydain yw'r iaith arwyddo fwyaf cyffredin yng Nghymru.