Ieithoedd Germanaidd Gogleddol
teulu iaith Germanaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cangen o'r ieithoedd Germanaidd, rhan o'r teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r ieithoedd Germanaidd gogleddol. Mae'r gangen yn cynnwys ieithoedd Llychlyn: Daneg, Ffaröeg, Islandeg, Norwyeg a Swedeg. Maen nhw i gyd yn tarddu'n hanesyddol oddi wrth Hen Norseg. Fe'u siaredir yn frodorol dros gwledydd y Llychlyn, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Norwy a Sweden a hefyd gan leiafrif yn y Ffindir.