![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a5/Grandes_Heures_Anne_de_Bretagne_Saint_Jean.jpg/640px-Grandes_Heures_Anne_de_Bretagne_Saint_Jean.jpg&w=640&q=50)
Ioan
apostol yng Nghristnogaeth / From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn y Testament Newydd mae Ioan neu Ioan Efenglydd neu Sant Ioan (fl. Ganrif 1af) yn un o ddeuddeg Apostol Crist ac un o'r pedwar efengylydd gyda Mathew, Marc a Luc. Roedd yn fab i Sebedeus a Salome, ac yn frawd i Iago. Dywedir ei fod ef a'r frawd yn bysgotwyr ar lan Môr Galilea pan alwyd hwy gan Iesu fel disgyblion.
- Am bobl eraill yn dwyn yr enw Ioan, gweler Ioan (gwahaniaethu)
Ioan | |
---|---|
![]() Miniatur o Ioan yn llyfr oriau Anna, Duges Llydaw (1503–8) gan Jean Bourdichon | |
Ganwyd | 11 ![]() Bethsaida ![]() |
Bu farw | c. 99 ![]() Effesus ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | pysgotwr, diwinydd, cyfrinydd, awdur ![]() |
Swydd | Apostol ![]() |
Dydd gŵyl | 27 Rhagfyr, 26 Rhagfyr ![]() |
Tad | Sebedeus ![]() |
Mam | Salome ![]() |
Yn ôl traddodiad bu farw yn Effesus yn Asia Leiaf. Ffurf arall ar ei enw yw Ieuan. Fe'i gelwir weithiau Sant Ioan o Batmos hefyd.
Credir mai Ioan yw awdur yr Efengyl yn ôl Ioan, un o'r pedwar efengyl synoptig a ysgrifennwyd tua diwedd y ganrif gyntaf. Tadogir arno dri Llythyr yn y Testament Newydd yn ogystal. Yn ôl traddodiad Ioan oedd awdur Datguddiad Ioan sy'n disgrifio Arwyddion Dydd y Farn; credir iddo gael ei gyfansoddi ar ynys Patmos.
|