Mae Isgyfandir India yn rhan sylweddol o gyfandir Asia sy'n cynnwys y gwledydd sy'n gorwedd, fwy neu lai, ar blât tectonig India i'r de o gadwyn yr Himalaya. Mae'r gwledydd hyn yn cynnwys Bangladesh, Pacistan, Bhwtan, India, Nepal a rhannau o ddwyrain Affganistan ar y tir mawr ac ynysoedd Sri Lanca a'r Maldives (yn achos yr olaf am eu bod yn gorwedd ar yr un haen o gromen y ddaear dan y môr). Yn ogystal â bod yn rhanbarth ddaearyddol, mae'r isgyfandir yn rhanbarth ddiwyllianol sy'n rhannu elfennau pwysig o hanes a diwylliant mewn cyffredin.
Cyfeirir at yr isgyfandir fel De Asia hefyd, ond mae hyn yn derm diweddar a llai ddiffiniedig sy'n gallu cyfeirio at wledydd eraill yn ne Asia yn ogystal â gwledydd yr isgyfandir ei hun ac felly'n cael ei ystyried yn derm daearwleidyddol.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.