arlunydd o'r Iseldiroedd (1632–1675) From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Johannes Vermeer neu Jan Vermeer (31 Hydref1632 (bedyddiwyd) – 15 Rhagfyr1675 (claddwyd)), a baentiodd yn yr arddull Baróc. Roedd yn arbenigo mewn golygfeydd o ddydd i ddydd o fewn y cartref. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Delft. Yn ystod ei fywyd, roedd Vermeer yn beintiwr weddol llwyddiannus o fewn ei dalaith. Nid oedd erioed yn arbennig o gyfoethog, efallai gan na chynhyrchodd nifer fawr o baentiadau. Gadawodd ei wraig a'i un ar ddeg o blant mewn dyled pan fu farw.
Diana and her Nymphs, The Geographer, The Procuress, The Milkmaid, Christ in the House of Martha and Mary, The Astronomer, A Girl Asleep, Girl with a Pearl Earring, View of Delft
Bu bron iddo gael ei anghofio am ddau gan mlynedd hyd i feirniad celf, Thoré Bürger, gyhoeddi traethawd yn 1866, yn priodoli 66 iddo (dim ond 35 o baentiadau sydd wedi eu priodoli i Vermeer yn gadarn). Ers hynny, mae enw Vermeer wedi dod i'r amlwg, a cydnabyddir ef fel un o beintwyr gorau'r Oes Aur Iseldiraidd. Mae'n enwog yn arbennig am ei driniaeth meistrolgar o olau yn ei waith.
Heddiw priodolir 35 o baentiadau i Vermeer yn gadarn. Dyma'r rhestr:
Santes Praxidis (tua 1655) - Olew ar ganfas, 102 x 83cm, Casgliad Preifat
Merch gyda Ffliwt (1665–70) - Olew ar banel, 20 x 17.8cm, Oriel Genedlaethol Celf, Washington
A Young Woman Seated at the Virginals (1670) - Wynn Las Vegas, Las Vegas
Portread o Wraig (1655–60) -
Paentiadau gan Vermeer
1 Crist yn Nhy Mair a Martha (1654–5)
3 Y Buteinfeistres (1656)
4 Merch yn Darllen Llythyr wrth Ffenestr Agored (1657–9)
5 Merch yn Cysgu (1656–7)
6 Y Stryd Fechan (1657/8)
7 Swyddog gyda Merch yn Chwerthin (1657–9)
8 Y Forwyn Laeth (tua 1658)
9 Merch yn Yfed, a Bonheddwr (1658–61)
10 Merch gyda Gwydryn Gwin (1659–60)
11 Golygfa o Delft (1660–1)
12 Y Wers Gerddoriaeth wedi'i Thorri ar Draws (1660–1)
13 Gwraig mewn Glas yn Darllen Llythyr (ar ôl 1664)
14 Y Wers Gerddoriaeth (1662)
16 Gwraig gyda Chadwyn o Berlau (1664)
17 Gwraig gyda Phiser Dŵr (1662–3)
18 Merch yn Dal Clorian (1665)
20 Merch gyda Chlustdlws Perlog (1665)
21 Y Cyngerdd (1665–6)
22 Portread o Ferch Ifanc (1665–7)
23 The Allegory of Painting (1666–7)
24 Meistres a Morwyn (1667)
26 Y Seryddwr (1668)
27 Y Daearyddwr (1669)
28 Y Wneuthurwraig Les (1664)
29 Y Llythyr Cariad (1670)
30 Gwraig yn Ysgrifennu Llythyr gyda'i Morwyn (1670)
32 Y Chwaraewr Gitâr (1669–72)
33 Merch yn Sefyll wrth ymyl Firdsinal (1670–3)
34 Merch yn Eistedd wrth Firdsinal (1672)
Merch gyda Ffliwt (gwaith o awduraeth ansicr, 1665–70)
Peintiwr o'r Iseldiroedd oedd Han van Meegeren, a weithiodd yn y traddodiad clasurol. Penderfynodd baentio gwaith Vermeer ffug i brofi i feirniaid ei fod yn beintiwr da. Yn ddiweddarach, paentiodd rhagor o waith ffug Vermeer ac arlunwyr eraill er mwyn ennill arian. Fe dwyllodd Van Meegeren y sefydliad celf. Ni chymerwyd ef o ddifri tan iddo ddangos ei sgiliau o flaen yr heddlu. Fe ddychrynodd ei ddawn am greu gwaith celf ffug y byd celf, gan achosi i weithiau a'u priodolwyd i Vermeer gael eu hasesu er mwyn ystyried eu dilysrwydd. Wedi datguddiad Van Meegeren yn 1945, fe ddechreuodd nifer o orielau hunan feirniadu a diflannodd nifer o hen feistri o'u waliau. Rhoddir enghreifftiau ym mywgraffiad Van Meegeren, A New Vermeer.
Mae View of Delft Vermeer yn ymddangos mewn rhan bwysig o nofel gan Marcel ProustThe Captive.
Mae'r llyfr Girl with a Pearl Earring a'r ffilm gyda'r un enw, wedi eu henwi ar ôl y paentiad; maent yn cyflwyno adroddiad ffuglen o greadigaeth y paentiad a pherthynas Vermeer gyda'r fodel.
Mae'r llyfr Girl in Hyacinth Blue wedi ei seilio ar baentiad ffuglennol gan Vermeer, a troswyd yn ffilm ar gyfer y teledu yn 2003, Brush with Fate.
Ysbrydolwyd gwirodlynVermeer Dutch Chocolate Cream Liqueur gan Vermeer, ac enwyd ar ei ôl, mae ei lofnod wedi ei boglynnu ar y fotel, ac mae'r logo yn cynnwys y paentiad Girl with a Pearl Earring.
Redd gan Salvador Dalí lawer o edmygedd o Vermeer, a phaentiodd fersiwn ei hun o The Lacemaker. Fe baentiodd Dali The Ghost of Vermeer of Delft Which Can Be Used As a Table yn 1934.
Mae nofel blant 2003, Chasing Vermeer, gan Blue Balliett, yn disgrifio lladrata A Lady Writing, mae dilysrwydd paentiadau Vermeer yn thema canolig (hefyd yn y llyfr The Wright 3 sy'n dilyn).
Seiliodd y cyfansoddwr Iseldiraidd, Louis Andriessen, ei opera Writing to Vermeer (1997-98, libretto gan Peter Greenaway), ar fywyd cartref Vermeer.
Mae ffilm gan Peter Greenaway, A Zed & Two Noughts (1985), yn cynnwys llinell plot sy'n dilyn lawfeddyg orthopedic, Van Meegeren, sy'n ail-greu gosodiad paentiadau Vermeer er mwyn peintio copïau ohonynt.
Mae'r llyfr a'r ffilm Girl, Interrupted yn cyryd eu henwau o'r llun Girl Interrupted at her Music.
Mae Jan Vermeer yn deitl cân ar albwm unigol Bob Walkenhorst, The Beginner (lyrics hereArchifwyd 2008-03-21 yn y Peiriant Wayback, song #6). Walkenhorst is the guitarist and principal songwriter for The Rainmakers.
Stolen, rhaglen ddogfen am lladrad Y Cyngerdd, o wefan PBS
Ffynonellau Cyffredin:
Libby Sheldon and Nicola Costaros, "Johannes Vermeer’s Young woman seated at a virginal", The Burlington Magazine, Chwefror 2006, rhifyn 1235, pennod CXLVIII.
J. Wadum, "Contours of Vermeer", Vermeer Studies. Studies in the History of Art, 55. Center for Advanced Study in the Visual Arts, Symposium Papers XXXIII, gol. I. Gaskel a M. Jonker (Washington/New Haven, 1998), tud. 201–23.