![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/Johnny_Hallyday_2012_3.jpg/640px-Johnny_Hallyday_2012_3.jpg&w=640&q=50)
Johnny Hallyday
actor a chyfansoddwr a aned yn 1943 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a brenin roc a rôl Ffrainc oedd Johnny Hallyday (15 Mehefin 1943 – 6 Rhagfyr 2017). Ei enw bedydd oedd Jean-Philippe Smet. Daeth ei deulu o Wlad Belg a fe'i anwyd ym Mharis. Cymerodd Johnny ddinesyddiaeth Ffrengig yn 1961. Yn Ionawr 2006 ceisiodd ailgymryd dinesyddiaeth Gwlad Belg ond ni dderbyniwyd ei gais.
Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Johnny Hallyday | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Johnny Hallyday ![]() |
Ganwyd | Jean-Philippe Clerc ![]() 15 Mehefin 1943 ![]() 9fed bwrdeistref Paris ![]() |
Bu farw | 5 Rhagfyr 2017 ![]() o canser yr ysgyfaint ![]() Marnes-la-Coquette ![]() |
Label recordio | Disques Vogue, Universal Music France, Warner Music Group, PolyGram ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | actor, cyfansoddwr, canwr, artist recordio, actor ffilm, actor teledu, chansonnier ![]() |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc a rôl, chanson, roc y felan, canu gwlad roc, French rock, cerddoriaeth boblogaidd, sentimental ballad, y felan, rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, canu gwlad, roc seicedelig ![]() |
Math o lais | baryton-Martin ![]() |
Tad | Léon Smet ![]() |
Priod | Laeticia Smet, Adeline Blondieau, Sylvie Vartan, Babeth Étienne, Adeline Blondieau ![]() |
Partner | Nathalie Baye, Gisèle Galante, Sabina, Leah ![]() |
Plant | David Hallyday, Laura Smet, Jade Smet ![]() |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, chevalier des Arts et des Lettres, Swyddog Urdd y Coron, Victoires de la Musique – Male artist of the year, Q16682556 ![]() |
Cau
Gwerthodd Hallyday dros 100 miliwn record yn fyd-eang ac enillodd 18 albwm platinwm. Fe ddechreuodd fel actor o dan ei enw iawn, ond yn 1960 fe wnaeth ei record gyntaf dan yr enw "Johnny Hallyday". Ei record boblogaidd gyntaf oedd y gân roc a rôl "Souvenirs, souvenirs". Fe'i dilynodd yn 1961 gyda "Viens danser le twist", "Elle est terrible", "L'idole des jeunes" a "Retiens la nuit".