From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas département Vendée, région Pays de la Loire yn Ffrainc yw La Roche-sur-Yon. Mae poblogaeth y ddinas yn 51,124 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 107,584.
Math | cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Yon |
Poblogaeth | 54,952 |
Pennaeth llywodraeth | Luc Bouard |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Vendée, Communauté de communes du Pays Yonnais, arrondissement of la Roche-sur-Yon |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 87.52 km² |
Uwch y môr | 74 metr |
Gerllaw | Yon |
Yn ffinio gyda | Aubigny-les-Clouzeaux, La Chaize-le-Vicomte, Les Clouzeaux, Dompierre-sur-Yon, La Ferrière, Mouilleron-le-Captif, Nesmy, Rives-de-l'Yon, Venansault |
Cyfesurynnau | 46.6697°N 1.4278°W |
Cod post | 85000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer La Roche-sur-Yon |
Pennaeth y Llywodraeth | Luc Bouard |
Bu castell La-Roche-sur-Yon ym meddiant y Saeson am gyfnod yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, cyn i Olivier de Clisson ei adfeddiannu. Llosgwyd y castell yn ystod Rhyfel y Vendée, pan wrthryfelodd rhan ogleddol y Vendée yn erbyn y Weriniaeth yn 1793. Cipiwyd La-Roche-sur-Yon gan y gwrthryfelwyr, a dinistriwyd rhan helaeth ohoni. Ar 25 Mai 1804, ail-sefydlwyd y ddinas gan Napoleon I, a'i gwnaeth yn brifddinas y Vendée yn lle Fontenay-le-Comte.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.