pentref a chymuned ym Mwrdeisdref Sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llangernyw.[1][2] Roedd yn rhan o'r hen Sir Ddinbych a Chlwyd cyn hynny. Mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn y rhan hon o'r sir.
Canol pentref Llangernyw | |
Math | pentref, cymuned, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 1,079, 1,089 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,004.18 ha |
Cyfesurynnau | 53.193°N 3.685°W |
Cod SYG | W04000126 |
Cod OS | SH873674 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
Mae'r pentref yn gorwedd ar bwys cymer yr afonydd Cledwen, Gallen, a Collen (sy'n troi'n Afon Elwy ) ar lôn yr A548, tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrwst ac 10 milltir i'r de-orllewin o Abergele ar y lôn honno. Mae'n gorwedd mewn dyffryn deniadol yng nghanol bryniau isel wrth droed bryn Tre-pys-llygod.
Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Sant Digain, yn hen ond wedi'i hatgyweirio'n sylweddol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o'r 15g. Ym mynwent yr eglwys ceir dau bâr o feini hirion cynhanesyddol; rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar cerfiwyd croesau arnyn nhw (maen nhw'n debyg i groesau eraill sy'n perthyn i'r seithfed neu'r 8g). Ar ben hynny cawsant eu gosod fel beddfeini i ddau fedd o'r 17g. Ceir coeden ywen yn y fynwent sy'n hen iawn. Saif Hen domen Castell Isaf tua kilometr i'r gogledd o'r pentref, sef tomen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol.
Hanner milltir i'r gorllewin, ar bwys yr hen lôn i Eglwysbach, ceir plasdy Hafodunos. Bu plasdy ar y safle yn y 16g ond mae'r plasdy Gothig presennol yn dyddio o'r 1860au. Syr George Gilbert Scott oedd y pensaer. Cafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan dân yn 2004.
Yn y pentre mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn adeilad 'Y Cwm' lle ganwyd Syr Henry Jones "Yr Athro Alltud" a ddaeth yn arloeswr ym myd addysg a rhyddfrydiaeth grefyddol, yn ogystal ag athronydd dylanwadol yng Nghymru a'r Alban.
Ceir ysgol gynradd Gymraeg yn y pentref, sef Ysgol Gynradd Bro Cernyw, a agorwyd yn 1969.[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangernyw (pob oed) (1,079) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangernyw) (672) | 64.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangernyw) (746) | 69.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangernyw) (99) | 23.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.