Llus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigion bychain ac iddynt ffrwythau blasus yw Llus neu lusi duon bach (Lladin: Vaccinium myrtillus). Maent yn tyfu ar dir llaith, asidig trwy rannau o'r byd gyda hinsawdd gymhedrol.
Llus | |
---|---|
Llus neu lusi duon bach ar Fynydd Aberdâr. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Ericales |
Teulu: | Ericaceae |
Genws: | Vaccinium |
Rhywogaeth: | V. myrtillus |
Enw deuenwol | |
Vaccinium myrtillus L. | |
Cesglir y ffrwythau o'r planhigyn gwyllt er mwyn eu bwyta, on nodweddiadol felly yn y Llychlyn, yr Alban, Iwerddon a Gwlad Pwyl. Yn Llychlyn, mae'n hawl i bawb hel llus, waeth pwy sy'n berchen ar y tir maent yn tyfu arno. Yn Iwerddon, gelwir y ffrwyth fraochán yn y Wyddeleg a fraughan yn y Saesneg, ac fe'u cesglir yn draddodiadol, ar y dydd sul olaf yng Ngorffennaf, a gelwir yn Fraughan Sunday.
Gellir bwyta'r ffrwythau'n ffres, neu eu defnyddio i wneud jam, sudd neu bastai. Yn Ffrainc, fe'u defnyddir yn sail i wirodlynnau, ac i roi flas i sorbet, a'r tarte aux myrtilles yw'r pwdin traddodiadol yn y Vosges a'r Massif Central. Yn Llydaw, caent eu bwyta gyda Crêpes. Mae hel llus ar y mynydd ar ddiwedd yr haf yn arfer poblogaidd hyd heddiw mewn rhannau o Gymru, e.e. yn Eryri, er ei bod hi'n cymryd amser i hel digon o'r ffrwythau bychain i wneud teisen blasus. Mis Awst yw'r amser gorau i hel llus (ond gweler yr adran Ffenoleg).