From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyfr Eseciel yw'r 26ain llyfr yn yr Hen Destament. Yn ôl traddodiad cafodd ei ysgrifennu gan y proffwyd Eseciel yn y 6ed ganrif CC mewn alltudiaeth ym Mabilon. Ei dalfyriad arferol yw 'Esec.'
Llyfr sy'n llawn o broffwydoliaethau a gweledigaethau rhyfeddol yw Llyfr Eseciel. Mae tair o weledigaethau Eseciel wedi cael dylanwad mawr ar gelfyddydd ac eiconiaeth Gristnogol. Y gyntaf yw'r pedair anghenfil ryfeddol, y Tetramorphiaid, sydd o gwmpas gorsedd Duw ac sy'n fod i symboleiddio'r pedwar Efengylydd (Esec. 1:10). Yr ail yw'r esgyrn sych yn y dyffryn sy'n cael ei gorchuddio â chig eto a'i adfywio; mae rhai yn credu bod hyn yn rhagweld atgyfodiad y meirw ar Ddydd y Farn (Esec. 37:1-14). Mae'r drydedd yn weledigaeth enwog o bedwar creadur asgellog yn dwyn olwynion, a fu'n ysbrydoliaeth i borteadau o'r angylion (Esec. 1:4-11).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.