![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a5/Ducks_on_Lough_Neagh_-_geograph.org.uk_-_267285.jpg/640px-Ducks_on_Lough_Neagh_-_geograph.org.uk_-_267285.jpg&w=640&q=50)
Lough Neagh
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yng Ngogledd Iwerddon yw Lough Neagh (Gwyddeleg: Loch nEathach). Ef yw'r llyn mwyaf ar ynys Iwerddon a llyn mwyaf y Deyrnas Unedig; mae ganddo arwynebedd o 392 cilometr sgwar (151 milltir sgwar). Mae'n 30 km o hyd a 21 km o led yn y man lletaf. Yn ei fan dyfnaf, mae ei ddyfnder yn 25 medr, ond dim ond 9 medr yw ei ddyfnder ar gyfartaledd.
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Iwerddon ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 392 ±1 km² ![]() |
Uwch y môr | 16 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 54.6183°N 6.3953°W ![]() |
Dalgylch | 4,550 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 30 cilometr ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Earl of Shaftesbury ![]() |
Saif tua 20 milltir i'r gorllewin o ddinas Belffast. Mae ei ddalgylch yn cynnwys tua 43% o arwynebedd Gogledd Iwerddon, ac mae ychydig o diriogaeth Gweriniaeth Iwerddon hefyd o fewn ei ddalgylch. Mae Afon Bann yn llifo trwy'r llyn.
Mae gan bump allan o chwe sir Gogledd Iwerddon ran o lannau'r llyn o fewn eu tiriogaeth: Antrim, Armagh, Down, Derry a Tyrone. Ymhlith y trefi a phentrefi ar ei lan mae Antrim, Crumlin, Randalstown, Toomebridge, Ballyronan, Ballinderry, Moortown, Ardboe, Maghery, Lurgan a Magherafelt.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7e/Wfm_lough_neagh.jpg/640px-Wfm_lough_neagh.jpg)