![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/40/2006-05-27-082806_Iceland_Keflav%25C3%25ADk.jpg/640px-2006-05-27-082806_Iceland_Keflav%25C3%25ADk.jpg&w=640&q=50)
Maes Awyr Keflavík
Maes Awyr Keflavík, Gwlad yr Iâ / From Wikipedia, the free encyclopedia
Maes Awyr Keflavík (Islandeg: Keflavíkurflugvöllur; cod awyrfa: IATA: KEF ICAO: BIKF), a adnabir hefyd fel Maes Awyr Reykjavík–Keflavík, yw'r awyrfa fwyaf yng Ngwlad yr Iâ a phrif ganolfan trafnidiaeth ryngwladol y wlad. Mae'r awyrfa 3.1 km i'r gorllewin o dref Keflavík[1] a 50 km i'r de orllewin o'r brifddinas,Reykjavík. Lleolir hi ger dref Keflavík.
![]() | |
Math | maes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Keflavík ![]() |
Agoriad swyddogol | 1943 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Keflavík ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 171 troedfedd ![]() |
Cyfesurynnau | 63.985°N 22.6056°W ![]() |
Nifer y teithwyr | 7,776,147 ![]() |
Rheolir gan | Isavia ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Isavia ![]() |
Mae gan y maes awyr dair hedfa (runways); mae dau mewn defnydd. Maint y maes awyr yw oddeutu 25 km sgwâr. Mae'r mwyafrir o'r hediadau sydd i mewn ac allan o Wlad yr Iâ drwy'r awyrfa yma.
Y prif gwmnïau hedfan yno yw Icelandair a WOW air, ill dau yn defnyddio'r maes awyr fel ei prif ganolfan. Defnyddir y maes awyr bron yn unswydd ar gyfer hediadau rhyngwladol. Bydd y rhan fwyaf o hediadau domestig yr ynys yn hedfan o Faes Awyr Reykjavík sydd 3 km o ganol y brifddinas. Ceir hediadau tymhorol o dref Akureyri yng ngogledd yr ynys i Keflavík. Gweinyddir Maes Awyr Keflavík gan Isavia, menter llywodraethol.