![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/41/Gaza_airport_03.jpg/640px-Gaza_airport_03.jpg&w=640&q=50)
Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat
From Wikipedia, the free encyclopedia
Unig faes awyr Llain Gaza yw Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat (Arabeg: مطار ياسر عرفات الدولي; Matar Yasir 'Arafat ad-Dowaly) (IATA: GZA, ICAO: LVGZ). Ei enw gwreiddiol oedd Maes Awyr Rhyngwladol Gaza a newidiwyd wedyn i Faes Awyr Rhyngwladol Dahaniya, ond fe'i ailenwyd ar ôl Yasser Arafat er cof am gyn arweinydd y PLO. Fe'i lleolir yn Rafah yn ne Llain Gaza, yn agos i'r ffin â'r Aifft.
![]() | |
Math | maes awyr rhyngwladol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Yasser Arafat ![]() |
Agoriad swyddogol | 24 Tachwedd 1998 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llain Gaza ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 320 troedfedd ![]() |
Cyfesurynnau | 31.2464°N 34.2761°E ![]() |
Rheolir gan | Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
![]() | |
Mae'n perthyn i Awdurdod Cenedlaethol Palesteina ac yn cael ei redeg ganddynt, ac roedd hefyd yn gwasanaethu fel cartref i Palestinian Airlines. Roedd yn medru ymdopi â 700,000 o deithwyr y flwyddyn ac yn rhedeg 24 awr y dydd am 364 diwrnod y flwyddyn (gan gau ar Yom Kippur). Agorwyd y maes awyr yn 1998, ond bu rhaid iddo gau yn 2001 ar ôl cael ei fomio'n drwm gan luoedd arfog Israel.