![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f9/Maison_Carree_in_Nimes_%252816%2529.jpg/640px-Maison_Carree_in_Nimes_%252816%2529.jpg&w=640&q=50)
Maison Carrée
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ystyrir y Maison Carrée yn ninas Nîmes, Ffrainc, yn un o'r temlau Rhufeinig gorau sydd wedi goroesi. Saif yn y place de la Maison-Carrée yng nghanol y ddinas. Fe'i codwyd tua'r flwyddyn 19 CC, neu ychydig yn gynt, gan Marcus Vipsanius Agrippa, un o noddwyr amlycaf cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, a fu'n gyfrifol hefyd am adeiladau'r Pantheon yn Rhufain. Cysegrwyd y deml i'w ddau fab, Caius Caesar a Lucius Caesar, etifeddion mabwysiedig yr ymerodr Augustus, a fu farw yn ifanc ill dau.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Nemausus ![]() |
Sir | Nîmes ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 43.83819°N 4.35611°E ![]() |
Hyd | 28 metr ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Rufeinig, Corinthaidd ![]() |
Perchnogaeth | City of Nîmes ![]() |
Statws treftadaeth | monument historique classé, Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Marcus Vipsanius Agrippa ![]() |
Manylion | |
Cau
Ystyr arferol y gair Ffrangeg carrée yw "(o ffurf) sgwâr", ond mae'r hen ystyr yn cynnwys yr ystyr "hirsgwar" hefyd a dyna a olygir yma. Dynodwyd y Maison Carrée yn heneb yn 1840. Heddiw mae'r deml yn amgueddfa.