un o aelodau gwreiddiol y gynulleidfa Forafaidd yn Llundain (1709 -1762) From Wikipedia, the free encyclopedia
Aelod o'r Gynulleidfa Forafaidd oedd Margaret Lloyd (27 Mai 1709 – 8 Medi 1762) ac un o deulu Llwydiaid Hendre-waelod a Llangystennin (ceir cofysgrifau yn Eglwys Llangystennin). Fe'i ganed yn Llangystennin (neu weithiau Llangwstennin), i'r de-ddwyrain o Llandudno a Llanrhos ym Mwrdeisdref Sirol Conwy.[1] Bu ei brawd Robert Lloyd (1707 - 1753) yn rheithor Aber.
Margaret Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mai 1709 Llangystennin |
Bu farw | 8 Medi 1762 Leeds |
Man preswyl | Riding Gorllewinol Swydd Efrog, Leeds |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ymgyrchydd |
Wedi symud i Lundain, ymunodd â'r Wesleaid, ond yn 1740 daeth dan ddylanwad y Morafiaid, ac yn 1741 rhoes ei holl amser i'w hachos.[2] Mae'r Eglwys Forafaidd yn fudiad Protestanaidd. Yn 1743, fe'i hanfonwyd i Swydd Efrog i arolygu'r gwaith Morafaidd ymhlith y "chwiorydd dibriod".
Fe'i priodwyd yn Swydd Efrog ar 27 Awst 1744, gyda Thomas Moore. Gwrthryfelodd y ddau yn erbyn yr unbennaeth Almaenaidd a lywodraethai'r genhadaeth Forafaidd yn Swydd Efrog, a diswyddwyd hwy. Yn ddiweddarach, fe gefnodd y ddau ar Eglwys y Brodyr, ond yn y diwedd dychwelon nhw ati.[3][4][5] [2][6]
Bu farw Margaret Lloyd yn Leeds, 8 Medi 1762, a'i chladdu yn "Erw'r Brodyr" yn Fulneck, Pudsey yn West Riding Swydd Efrog.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.