From Wikipedia, the free encyclopedia
Newidiadau ffisegol o fewn yr organau cenhedlu benywaidd yw mislif, ble mae'r gwain yn gwaedu bob tua 28 diwrnod, os na bu beichiogi yn y cyfamser. Mae tair rhan i'r broses yma. Yn gyntaf mae wal y groth yn twchu, yn ail rhyddheir ofwm (neu wy) ac yn olaf, mae wal y groth yn gadael y corff, gyda pheth gwaed. Mae lefelau hormonau'r corff yn codi ac yn gostwng yn aruthrol dros y cyfnod hwn, gan beri newidiadau yn nheimladau'r ferch.
Mae mislif yn medru bod yn boenus iawn.
Defnyddir llysiau rhinweddol ers canrifoedd i wella'r boen mae'r ferch yn ei ddioddef.
Mae menywod wedi gorfod delio gyda'r mislif erioed. Ers canol yr 20g dechreuwyd cynhyrchu a gwerthu adnoddau saffach a glanach fel y tampon. Mae'r tampon yn lân ac yn hawdd ei ddefnyddio (er bydd merched ifainc efallai'n cael trafferth i gychwyn). Gan fod y rhan fwyaf o tamponau yn cynnwys seliwlos ceir hefyd rhai dyfeisadau organig neu ail-ddefnydd er mwyn peidio effeithio ar yr amgylchedd ac i arbed arian yn yr hir-dymor i'r ddynes.
Gellir hefyd defnyddio cwpan mislif sydd yn casglu'r gwaed ac yna gellir golchi ac ail-ddefnyddio'r gwpan. Mae'r cwpan yn ddrytach i'w brynu y tro cyntaf (oddeutu £20) ond mae'r ffaith bod ei olchi ac ail-ddefnyddio yn arbed llawer o arian yn yr hir-dymor.
Yn hanesyddol, defnyddir y term misglwyf yn Gymraeg - yn y Beibl er enghraifft[2]. Mae cofnodion o'r gair mislif o 1632 ymlaen,[3] a dyma'r term sy'n fwy poblogaidd bellach, ar y we o leiaf.
Mewn iaith bob dydd, defnyddiwyd llawer o dermau eraill oherwydd y tabŵ fu'n gysylltiedig â'r mislif. Yn Gymraeg, ceir "cwarfod misol[4]" a "pethau canu"[angen ffynhonnell] er enghraifft.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.