From Wikipedia, the free encyclopedia
Corff eang o ddŵr hallt yw môr. Mae cefnfor yn ehangach na môr. Cilfach fôr gyda thir ar hyd at dair ochr iddi yw bae. Trwyn o dir gyda môr ar ddwy neu dair ochr iddi yw pentir neu benrhyn. Tir gyda môr o'i gwmpas yw ynys. Mae'n bosib teithio'r môr ar long a chael bwyd o'r môr, er enghraifft pysgod, pysgod cregyn neu wymon.
Môr Hafren (Sianel Bryste), Môr Udd (y Sianel)
Gair arall am y môr neu'r cefnfor yw “weilgi”. Mae hwn yn hen air sydd, yn ôl Geiriadur y Brifysgol, yn dyddio o leia i'r 13g, e.e. “eistedd yd oedynt ar garrec hardlech uch penn y weilgi”. Ystyr gweilgi yw blaidd ac yn ôl y Geiriadur: “math o bersonoliad o'r môr yw gweilgi neu ryw syniad mytholegol amdano fel anifail yn udo, neu… yn delweddu'r môr fel blaidd”. Mae'n bosib mai o'r hen goel fod y blaidd yn greadur tywyllodrus a pheryglus y cododd hyn – yn cynrychioli stormydd. Ceir arwydd tywydd o ardal Clynnog Fawr, Gwynedd yn cyfeirio at y “bwlff” neu “wlff” (woolf) fel enw ar y pytiau bach o enfys welir weithiau y nail ochr i'r haul ac sydd yn aml iawn yn arwydd bod storm ar ei ffordd. Enwau eraill ar y rhain yw "ci drycin" neu "cyw drycin", ac o Glynnog y cyfeiriad arferol i'w gweld yw i'r gorllewin – dros y môr – rhyw ddwy neu dair awr cyn y machlud.
Rhywbeth i'w barchu fu'r môr inni'r Cymry erioed ac fel pob cenedl arfordirol arall mae ein llên gwerin morol yn gyfoethog iawn – yn enwedig ym mysg morwyr a physgotwyr. I'r sawl y dibynnai ei fywoliaeth a'i fywyd arno byddai defodau a choelion a pharch tuag at y môr yn yswiriant rhag trychineb. Mae gan Marie Trevelyan yn ei Folk-lore and Folk Stories of Wales (1909), gasgliad o straeon a choelion o'r fath. Er enghraifft dywed fod y seithfed neu'r nawfed ton yn gryfach na thonnau eraill ac os llwyddith dyn sy'n boddi i ddal un o'r rhain mae siawns dda y caiff ei achub. Ar y llaw arall os yw rhywun yn nofio tua'r lan mae ei fywyd mewn peryg os caiff ei oddiweddyd gan un o'r tonnau hyn. Byddai ymdrochi yn y môr (a'r naw bore canlynnol) yn iachau rhywun sâl, a byddai ymdrochi naw gwaith ar yr un bore yn dda i rywun sy'n diode â'i nerfau. Dywed hefyd y byddai rhywun a yfai ychydig o ddŵr y môr bob bore o'i blentyndod yn sicr o fyw i oedran mawr. A bod pobl a aned ger y môr yn naturiol ddewr. Ar un adeg 'chydig o bysgod a fwyteid yng Nghymru oherwydd credid bod pysgod yn byw ar gyrff pobl a foddwyd. Byddai tonnau gwynion yn cael eu hystyried â pharchedig ofn a chredid mai ysbrydion rhai a foddwyd oeddent yn codi i'r wyneb ar wynt i gael hwyl yn marchogi eu cesyg gwynion. Gelwid y tonnau gwynion gwylltion oddiar Trwyn yr As ger Sain Dunwyd ym Morgannwg y “merry dancers”. Daeth cwpwrdd Dafydd Jones neu “Davy Jones' Locker” yn enw adnabyddus am y môr. Dyddia'r enw o tua canol y 18g yn ôl Geiriadur Rhydychen ac mae ei darddiad yn ansicr. O blith morwyr o Gymru y death yn ôl Marie Trevelyan, ond does gan neb glem pwy oedd y Dafydd Jones gwreiddiol chwaith – môr leidr yn ôl rhai. Weithiau gwelid goleuadau rhyfedd yn dawnsio o gwmpas y mast a'r rigin. "Cannwyll yr ysbryd" neu "Gannwyll yr Ysbryd Glân" oedd enwau'r morwyr Cymraeg arnynt ("St Elmo's Fire" i'r Saeson a morwyr y Cyfandir). Byddai gweld un o'r goleuadau hyn ar ben ei hun yn anlwcus, dau yn arwydd o dywydd braf a mordaith lwyddiannus a llawer ohonynt yn ystod storm yn arwydd fod y gwaetha drosodd ac y deuai hindda'n fuan. Hen stori o Forgannwg oedd bod y diafol ar un adeg yn hwylio oddi ar glannau Cymru mewn llong dri mast i gasglu eneidiau pechaduriaid. Fe'i hadeiladwyd o goed a dorrwyd yn Anwfn ac roedd yr aroglau swlffwr a ddeuai ohoni yn erchyll. Gorfoleddai'r hen ddiafol bob tro y cawsai gargo newydd o eneidiau ond fe wylltiodd hynny Dewi Sant, yn ôl rhai, neu Sant Dynnwyd yn ôl eraill, nes iddo drywannu'r llong â phicell fawr. Prin y llwyddodd y Diafol i ddianc ac fe ddryllwyd y llong ar greigiau Gŵyr lle gwnaeth rhyw gawr mawr bric dannedd o'i mast a hances boced o'i hwyl.
Ceir nifer fawr o ofergoelion yn ymwneud â'r môr – dyma ddyrnaid bychan ohonynt:
Roedd y môr yn bwysig iawn yng nghrefydd yr hen Geltiaid ac os edrychwn ar achau duwiau ac arwyr y Mabinogi gwelwn fod Llŷr, duw'r môr yn dad i Bendigeidfran, Branwen a Manawydan. I'r hen Gymry, duw crefft oedd Manawydan yn bennaf ond yn chwedlau Iwerddon roedd ef (Manannán mac Lir), fel ei dad, yn dduw'r môr fyddai'n marchogi'r tonnau ar ei geffyl gwyn. Ef amgylchynodd Iwerddon â môr i'w hamddiffyn ac a roddodd ei enw i Ynys Manaw.
Ceir aml i foeswers yn codi o eigion y môr. Cymerwch yr hen stori gyfarwydd am pam fod y môr yn hallt. Y creadur dwl hwnnw ddwynodd y felin halen hud oedd yn gyfrifol. Roedd yn cofio'n iawn y swyn i gael y felin i gynhyrchu ond anghofiodd y swyn i wneud iddi stopio. Pan suddodd ei long dan bwysau'r holl halen doedd dim modd adfer na rhoi stop ar y felin byth wedyn. Y foeswers, yn naturiol, yw i beidio a bod mor farus yn y lle cyntaf a bod canlyniadau pellgyrhaeddol iawn i esgeulustod syml weithiau. A beth am stori Sinbad y morwr pan neidiodd hen ddyn y môr ar ei gefn. Ddeuai hwn byth oddi arno wedyn ac roedd yn amhosib ei dynnu na'i ysgwyd i ffwrdd chwaith. Yn y diwedd rhoddodd Sinbad win iddo nes i'r hen ddyn feddwi a llacio ei afael fel y gallodd Sinbad ddianc. Ceir hen ddywediad: “Os wyt ti am dynnu stanc neu bolyn ffens waeth iti heb a'i gurro ar ei ben hefo gordd – sigla di o yn ôl ac ymlaen ac fe ddaw o'r ddaear yn ddi-lol”. Os na fydded gryf bydded gyfrwys, mewn geiriau eraill. Ceir stori o ardal Clynnog, a cheir fersiynau tebyg o'r un hanes yn Nefyn a Môn, am bysgotwyr penwaig dros ddwy ganrif yn ôl yn cael helfeydd toreithiog iawn am rai blynyddoedd. Roeddent yn dal a dal a dal, lawer mwy na ellid eu gwerthu na'u halltu na'u sychu at y gaeaf. Ond dal i bysgota wnai'r dynion gan wasgaru'r pysgod hyd y caeau fel gwrtaith hydynoed. Wel, yng ngwyneb yr holl wastraff ac am fod drewdod y pysgod pydredig ar y caeau yn chwythu dros dir rhyw hen wrach oedd yn byw gerllaw, dyma honno yn melltithio'r pysgotwyr gan ddweud na ddaliai neb yr un pysgodyn arall oddiar y rhan hwnnw o'r arfordir am ddau can mlynedd. Gwir y gair, oherwydd o hynny ymlaen fe beidiodd yr heigiau penwaig ddod ar gyfyl Clynnog a bu raid i'r pysgotwyr a'u teuluoedd symud oddiyno. Dyma, yn ôl rhai, sy'n cyfrif am y murddynod ar y traeth ger Ty'n y Coed. Efallai bod elfen o wirionedd hanesyddol yn y stori hon oherwydd mae'n wir bod penwaig yn newid eu llwybrau ymfudo o bryd i'w gilydd ond hefyd roedd diwedd y 18g yn gyfnod o newid yn y diwydiant pysgota. Bryd hynny fe danseilwyd bywoliaeth y pysgotwyr bach bron ymhobman wrth i gychod mwy ddechrau gweithio allan o borthladdoedd cyfagos gan gipio'r farchnad oddiarnynt. Beth bynnag am hynny y wrach yn cosbi'r pysgotwyr am eu gwastraff gaiff y bai, a'r stori wedi goroesi am fod ynddi foeswers a rhybudd am ganlyniadau bod yn wastraffus.
Ceir llawer o ddefodau a choelion yn gysylltiedig â llongau:
Ceir stori o Gernyw am forwr glywodd gloch yn canu a'r sŵn yn codi o fedd hen gapten foddwyd yn y môr. Boddwyd y morwr hwnnw ar ei fordaith nesa.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.