Moronen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llysieuyn yw moron (Daucus carota is-r. sativus). Y gwraidd sydd fel arfer yn oren yw'r rhan a fwyteir. Mae'n frodorol o Ewrop a de-orllewin Asia.
Moron | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Daucus |
Rhywogaeth: | D. carota |
Enw deuenwol | |
Daucus carota L. | |
Mae 'moron' (unigol: 'moronen', er mai yn y lluosog y cyfeirir at y llyseun fel rheol) yn cael eu trin fel llysiau yr un rhywogaeth â moron gwyllt, Daucus carota (neu ar lafar, Moron y maes). Mae hyn yn croesi yn rhwydd iawn gyda'r foronen bwytadwy, fel y gall gwraidd gwyn ymddangos yn achlysurol rhwng y moron wedi'u tyfu. Mae moron yn gyfoethog o beta carote, y mae'r corff yn ei drawsnewid i fitamin A.
Mae moron yn cynnwys Beta-carotene, sy'n dda i'r iechyd. Yn yr Ail Ryfel Byd, cyhoeddodd llywodraeth Prydain y propaganda bod moron yn eich helpu i weld yn y tywyllwch. Ond roedd hyn er mwyn cuddio oddi wrth y Natsïaid y ffaith eu bod nhw wedi datblygu RADAR i ddarganfod yr awyrennau Almaenig.