cyfansoddwr a aned yn 1756 From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Wolfgang Amadeus Mozart (27 Ionawr 1756 – 5 Rhagfyr 1791) yn un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a diwyd y cyfnod Clasurol. Fe'i ganwyd yn Salzburg, Awstria a dechreuodd gyfansoddi darnau pan oedd yn bump oed. Pan roedd yn dal yn blentyn aeth ei dad, Leopold Mozart, ag ef i chwarae o flaen teuluoedd crand Ewrop. Mae'n bosibl fod yr holl deithio wedi achosi problemau iechyd iddo yn hwyrach yn ei fywyd.
Wolfgang Amadeus Mozart | |
---|---|
Ganwyd | Johannes Chrysostomus Wolfgangus Theophilus Mozart 27 Ionawr 1756 Salzburg |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1791 Fienna, Rauhensteingasse |
Man preswyl | Mozart's birthplace |
Dinasyddiaeth | Archddugiaeth Awstria, Prince-Archbishopric of Salzburg, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, athro cerdd, pianydd, cerddor, organydd, fiolinydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Y Ffliwt Hud, Le nozze di Figaro, Don Giovanni, Così fan tutte, Die Entführung aus dem Serail, Symphony No. 40, Eine kleine Nachtmusik, Requiem |
Arddull | Cyfnod clasurol, sardana, cerddoriaeth siambr, opera, symffoni |
Prif ddylanwad | Johann Joseph Fux, Johann Sebastian Bach |
Taldra | 1.63 metr |
Mudiad | Cyfnod clasurol |
Tad | Leopold Mozart |
Mam | Anna Maria Mozart |
Priod | Constanze Mozart |
Plant | Karl Mozart, Franz Xaver Wolfgang Mozart |
Llinach | Mozart family |
Gwobr/au | Urdd y Sbardyn Aur |
llofnod | |
Bu farw ym 1791 yn drychinebus o ifanc, yn dlawd, ond wedi cyfansoddi cannoedd o ganeuon sy'n adnabyddus hyd heddiw.
Ysgrifennodd Mozart 68 symffoni, 27 concerto piano, yn ogystal â choncerti i'r clarinet, y corn Ffrengig, yr obo, y fiola, y ffidil, y ffliwt a'r telyn.
Rhoddodd rhieni Mozart yr enw llawn Johannes Chrysostomus Wolfgangus Theophilus Mozart iddo. Ei dad oedd y cyfansoddwr o'r Almaen Johann Georg Leopold Mozart, oedd yn byw yn Awstria am rhan fwyaf ei fywyd.
Ei wraig oedd Constanze Weber. Caswsant chwech o blant, gan gynnwys Karl Thomas Mozart a'r cyfansoddwr Franz Xaver Wolfgang Mozart. Enwau eu plant eraill, bu farw yn eu plentyndod oedd Theresia Constanzia Adelheid Friedericke Maria Anna Mozart a Anna Maria Mozart (merched) a Johann Thomas Leopold Mozart a Raimund Leopold Mozart (bechgyn).
Ym 1791, dechreuodd Mozart ysgrifennu Requiem sydd yn gasgliad o ddarnau gerddoriaeth i dalu teyrnged i’r meirw. Ond tra bod Mozart yn ganol ysgrifennu ei waith, bu farw yn Vienna, Awstria ar 5 Rhagfyr. Cafodd y requiem ei gwblhau yn ddiweddarach gan ei ddisgyblion, Franz Xaver Süssmayr, Joseph Eybler a Freystadler.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.