From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad hawliau sifil yw y National Association for the Advancement of Colored People (NAACP), a sefydlwyd i ddod ag arwahanu i ben yn yr Unol Daleithiau a dangos i'r bobl dduon eu bod yn cael eu trin yn anghyfiawn.
Roedd y NAACP yn defnyddio grym moesol sef drwy weithio yn gyfreithlon ag yn ddi-drais. Yn y flwyddyn 1919 cofnodwyd bod ganddynt dros 91,000 o aelodau ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynyddodd eu niferoedd i 450,000 o aelodau. Roeddent yn codi ymwybyddiaeth ymysg y pobl ddu bod angen gwelliannau yn eu statws a'u hawliau sifil.
Sefydlwyd NAACP ar 12 Chwefror, 1909 gan grŵp o bobl gwahanol iawn gan gynnwys: Du Bois, Ida B. Wells, Archibald Grimké, Henry Moscowitz, Mary White Ovington, Oswald Garrison Villard, William English Walling (a oedd ei hun o deulu a fu'n cadw caethweision),[1] a Florence Kelley, cyfaill Du Bois.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.