Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen (byr: SUB Göttingen) yw llyfrgell Prifysgol Göttingen (Göttingen Georg-August-Universität) yn Göttingen, yr Almaen yn ogystal â bod yn llyfrgell ganol y rhanbarth Niedersachsen (Lower Saxony). Rhan o'r llyfrgell yw'r adran ddigideiddio Göttinger Digitalisierungszentrum yn ogystal â'r wefan wyddonol vascoda. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd. Rhwng muriau'r llyfrgell hon y cedwir Beibl Gutenberg, un o bedwar yn unig drwy'r byd.
Math | llyfrgell academaidd, cyhoeddwr, state library of Germany ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Georg August Göttingen ![]() |
Lleoliad | Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen ![]() |
Sir | Göttingen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5397°N 9.9364°E ![]() |
Cod post | 37073 ![]() |
![]() | |
Mae'n un o lyfrgelloedd mwya'r Almaen hefyd, gyda 4½ miliwn o gyfrolau, 13,000 holograff a 350 Nachlässe (iaid llenyddol sy'n delio gyda materion hawlfraint ac eiddo deallusol). Mae'r llyfrgell yn casglu deunydd print, ffotograffau, mapiau, lluniau, llawysgrifau, CD-ROMau ac archifau. Hefyd eitemau ym mhob iaith a fformat; llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, basau data, mapiau,argraffiadau a darluniau. Catalogir popeth yn electronig, a dim ond arlein y caniateir mynediad i rai o'r casgliadau.