From Wikipedia, the free encyclopedia
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 31 Mawrth 1829 hyd ei farwolaeth y flwyddyn ganlynol oedd Pïws VIII (ganwyd Francesco Saverio Castiglioni) (20 Tachwedd 1761 – 30 Tachwedd 1830). Ei deyrnasiad fel pab oedd y byrraf o'r 19g.
Pab Pïws VIII | |
---|---|
Ganwyd | Francesco Saverio Castiglioni 20 Tachwedd 1761 Cingoli |
Bu farw | 30 Tachwedd 1830 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | pab, cardinal, esgob esgobaethol, esgob esgobaethol |
llofnod | |
Cafodd Castiglioni ei eni yn Cingoli, Marche, yr Eidal, yn fab i'r Cownt Ottavio Castiglioni a'i wraig Sanzia Ghislieri. Cafodd ei addysg yn y Collegio Campana a Phrifysgol Bologna.[1]
Daeth yn Esgob Montalto yn 1800. Etholwyd ef yn bab yn 1829. Aeth yn sâl iawn ym mis Tachwedd 1830, a bu sibrydion iddo gael ei wenwyno. Bu farw ar 30 Tachwedd ym Mhalas y Quirinale yn Rhufain, yn 69 oed.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.