Paul-Henri Spaak
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd a diplomydd Belgaidd oedd Paul Henri Charles Spaak (25 Ionawr 1899 – 31 Gorffennaf 1972) a fu'n arweinydd sosialaidd yng ngwleidyddiaeth Gwlad Belg ac yn ffigur blaenllaw yn y mudiad i uno Ewrop wedi'r Ail Ryfel Byd. Gwasanaethodd yn Brif Weinidog Gwlad Belg teirgwaith (1938–39, 1946, 1947–49) ac yn Weinidog Tramor Gwlad Belg pedair gwaith (1936–38, 1945–47, 1954–57, 1961–66). Roedd yn Llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o 1946 i 1947, yn Llywydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop o 1949 i 1951, ac yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO o 1957 i 1961.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Paul-Henri Spaak | |
---|---|
Paul-Henri Spaak yn 1957. | |
Ganwyd | Paul Henri Charles Spaak 25 Ionawr 1899 Schaerbeek |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1972 Braine-l'Alleud, Dinas Brwsel |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, chwaraewr tenis |
Swydd | Prif Weinidog Gwlad Belg, Prif Weinidog Gwlad Belg, Prif Weinidog Gwlad Belg, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, member of the Chamber of Representatives of Belgium, President of the United Nations General Assembly, llysgennad, president of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, member of the Chamber of Representatives of Belgium, Minister of Development Cooperation, Minister of Mobility, Minister of Mobility, Belgian Minister of Foreign Trade, Mayor of Saint-Gilles - Sint-Gillis |
Plaid Wleidyddol | Belgian Socialist Party, Socialist Party |
Tad | Paul Spaak |
Mam | Marie Janson |
Plant | Antoinette Spaak, Fernand Spaak |
Gwobr/au | Gwobr Siarlymaen, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Medal of Freedom, Uwch Groes Urdd y Goron, Uwch Cordon Urdd Leopold, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Uwch Groes Urdd Crist (Portiwgal), Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Gwlad Belg |
Cau