From Wikipedia, the free encyclopedia
Ras a redir drwy Lydaw yw'r Redadeg. Cynhaliwyd yr un gyntaf ym mis Mai 2008 am gyfnod o dridiau er mwyn hybu achos y Llydaweg, yn seiliedig ar Korrika yng Ngwlad y Basg. Rhedwyd hi o dde Llydaw i'r gogledd, o Naoned i Brest, ac wedyn i Karaez. Trefnwyd y Redadeg gyntaf hon gan rwydwaith ysgolion cyfrwng Llydaweg, sef Diwan, i ddathlu 30 mlwyddiant sefydlu'r mudiad. Aeth elw'r ras gyntaf hon i gyd i Diwan. Ar wahân i arwyddion Llydaweg, Diwan yw'r unig elfen o gydnabyddiaeth o statws swyddogol i'r Llydaweg gan Lywodraeth Ffrainc.[1]
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad sy'n ailadrodd |
---|---|
Iaith | Llydaweg |
Dechrau/Sefydlu | 2008 |
Lleoliad | Llydaw |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Rhanbarth | Bretagne |
Gwefan | https://www.ar-redadeg.bzh |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r elw bellach yn cael ei rannu ymysg sefydliadau a chymdeithasau eraill sy'n ymwneud â'r Llydaweg.
Seiliwyd y Redadeg ar ras y Fasgeg, 'Korrika'. Erbyn hyn ceir ras dros y Wyddeleg hefyd, sef 'an Rith', a Ras yr Iaith ar gyfer y Gymraeg. Cynhelir y Redadeg bob dwy flynedd ym mis Mai (2008, 2010, 2012, 2014, 2016 a 2018). Fel yn achos y Korrika, rhedir yn ddi-stop am 24 awr y dydd. Dydy rasys cyfatebol Cymru ac Iwerddon ddim yn rhedeg drwy'r nos.
Bu llwyddiant y Redadeg yn ysbrydoliaeth i sefydlu Ras yr Iaith ar gyfer y Gymraeg, a galwyd y cwmni nid-er-elw sy'n trefnu'r Ras yng Nghymru yn 'Rhedadeg' fel cydnabyddiaeth o hyn.
Ers 2008 a hyd yma (diweddarwyd 10/2023) mae'r Redadeg wedi gallu ailddosbarthu cyfanswm o €942,400. O'r rhain, dyrannwyd €499,600 i rwydwaith Diwan, a €442,800 i wahanol brosiectau (gweler y manylion ar gyfer pob blwyddyn).[2]
Caiff pob Redadeg ei hadnabod gan arwyddgan wedi'i chyfansoddi'n arbennig ar gyfer y ras.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.