![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/Reykjavik_Main_Image.jpg/640px-Reykjavik_Main_Image.jpg&w=640&q=50)
Reykjavík Fawr
Reykjavík Fawr, Rhanbarth y Brifddinas / From Wikipedia, the free encyclopedia
Reykjavík Fawr neu Metropol Reykjavik (Islandeg: Höfuðborgarsvæðið, ystyr "Rhanbarth y Brifddinas") yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer y brifddinas, Reykjavik a'r chwech bwrdeistref sydd o'i chylch.[1][2] Dyma'r rhanbarth mwyaf trefol ar yr ynys Gwlad yr Iâ.[3]
Math | rhanbarthau Gwlad yr Iâ ![]() |
---|---|
Prifddinas | Reykjavík ![]() |
Poblogaeth | 233,034 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Iâ ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,062.2 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Rhanbarth y Gorllewin, Suðurland, Reykjanesskagi ![]() |
Cyfesurynnau | 64.2°N 21.7°W ![]() |
IS-1 ![]() | |
![]() | |
Mae gan bob bwrdeistref ei chyngor etholedig ei hun. Poblogaeth Metropol Reykjavik yw 216,940 sef, dros 60% o boblogaeth Gwlad yr Iâ a hynny mewn ardal sydd ond ychydig dros 1% o diriogaeth y wlad. Amcangyfrifir maint Reykjavík Fawr gan yr ardal sy'n rhan o diriogaeth y bwrdeistrefi gan gynnwys darnau mawr o dir gwag, ac nid yr ardal craidd drefol ei hun sydd hyd yn oed yn llai.[4] Mae'r bwrdeistrefi'n cyd-weithio'n dda, er enghraifft, ar bolisi casglu sbwriel, trafnidiaeth gyhoeddus a brigâd dân cyfun.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/Reykjavik_Main_Image.jpg/640px-Reykjavik_Main_Image.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Location_map_H%C3%B6fu%C3%B0borgarsv%C3%A6%C3%B0i%C3%B0.png/320px-Location_map_H%C3%B6fu%C3%B0borgarsv%C3%A6%C3%B0i%C3%B0.png)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e1/Iceland_capital_region_municipalities.svg/320px-Iceland_capital_region_municipalities.svg.png)