Rhedynen Fair
genws o blanhigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Fel y dengys yr enw, math o redyn yw Rhedynen Fair, (enw Lladin: Athyrium filix-femina; Saesneg: Lady Fern). Ceir oddeutu 180 math gwahanol o'r genws hwn, sef Athyrium. Mae'r Athyrium yn perthyn i'r teulu a elwir yn Athyriaceae. Mae larfa'r pryfyn Lepidoptera'n hoff iawn o fwyta'i ddail.
Ffeithiau sydyn Athyrium, Dosbarthiad gwyddonol ...
Athyrium | |
---|---|
Athyrium filix-femina | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pteridophyta |
Dosbarth: | Polypodiopsida |
Urdd: | Polypodiales |
Teulu: | Athyriaceae |
Genws: | Athyrium Roth |
Cau
Mae'n ffurfio clystrau mawr mewn coetiroedd llaith, ar gloddiau a llethrau ac mae'n eitha cyffredin yng ngwledydd Prydain. Gall dyfu hyd at 1.5 m. Gwyrdd golau yw ei liw, ac mae'r dail wedi'u rhannu fel pluen ddwywaith. Aeddfeda'r sborangia yn yr hydref.