Rhestr beirdd Cymraeg c.550–1600
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae hyn yn rhestr o'r beirdd Cymraeg hysbys a ganai ar y mesurau caeth yn bennaf rhwng canol y 5fed ganrif a diwedd yr 16g. Sylwer nad yw'n cynnwys beirdd mesurau rhydd y cyfnod diweddar, sef o tua 1550 ymlaen, ond mae'n cynnwys ychydig o feirdd a flodeuai ar ddechrau'r 17g ond sy'n perthyn yn uniongyrchol i'r hen draddodiad barddol. Sylwer yn ogystal fod llawer o ganu'r cyfnodau cynnar yn waith beirdd anhysbys, e.e. yn achos canu crefyddol cynnar a cherddi gnomig a chwedlonol. Anwybyddir hefyd y rhan fwyaf o'r Canu Darogan, cerddi a dadogir yn aml ar y Taliesin chwedlonol, Myrddin a ffigurau eraill.