Rhestr o wledydd gyda bwytai McDonald's
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr o wledydd sydd ag o leiaf un bwyty McDonald's. McDonald's yw cadwyn bwyd cyflym mwyaf y byd, gyda dros 36,000 o fannau gwerthu ledled y byd; y mwyafrif ohonynt y tu allan i'r Unol Daleithiau. Agorodd y bwytai McDonald's cyntaf yng Nghymru ar 3 Rhagfyr, 1984 yng Nghaerdydd. Agorodd masnachfraint McDonald's gyntaf Cymru ym mis Medi 1998 yng Nghaerfyrddin.[1]
Mae archebion hunanwasanaeth ym mwytai McDonald's ar draws y Deyrnas Unedig yn cynnwys opsiwn i archebu yn Gymraeg.[2]