Richard Herbert
(1450-1469) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Marchog, Iorcydd a noddwr beirdd o'r Oesoedd Canol oedd Syr Rhisiart Herbert neu Richard Herbert o Golbrwg (bu farw 1469). Roedd yn frawd iau i William Herbert, Iarll Penfro ac yn fab i Syr William ap Thomas o Gastell Rhaglan a Gwladys ferch Dafydd Gam, ac yn ŵyr felly i Ddafydd Gam. Priododd Marged, chwaer Syr Rhys ap Thomas (1449 - 1525) un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru.
Richard Herbert | |
---|---|
Beddrod Richard Herbert yn Eglwys y Santes Fair ym Mhriordy'r Fenni. | |
Ganwyd | 15 g |
Bu farw | Gorffennaf 1469, 1469 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | William ap Thomas |
Mam | Gwladys ferch Dafydd Gam |
Priod | Margaret ap Thomas |
Plant | William Herbert, John Herbert, Richard Herbert, William ap Richard Herbert, William Herbert |
Fel ei frawd roedd yn deyrngar i'r Iorciaid yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Credir ei fod wedi ymladd ysgwydd wrth ysgwydd gyda’i frawd ym Mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd llu Siasbar Tudur gan Edward, mab dug Iorc. Ar ôl i Edward gael ei gydnabod yn frenin Lloegr, bu Rhisiart yn cyflawni swyddogaethau pwysig yn Ne Cymru e.e. oedd cyd-arweinydd yr ymgyrch yn erbyn Castell Carreg Cennen yn 1462. Yn 1468 arweiniodd treuan o fyddin Wiliam Herbert yn erbyn castell Harlech, a ddelid gan y Lancastriaid. Ar y ffordd yno fe drechodd lu Siasbar Tudur ger Dinbych. Gwobrwywyd ef a'i frawd Rhisiart Herbert yn hael gan y brenin a gwobrwywyd y ddau gyda lawer o diroedd yn swyddi Henffordd a Chaerloyw.
Daliwyd Rhisiart a'i frawd ym mrwydr Edgecote ar 24 Gorffennaf 1469, gan eu gelyn, Richard Neville, Iarll Warwick. Aethpwyd â'r ddau i Northampton lle cawsant eu dienyddio. Dygwyd corff Rhisiart yn ôl i’r Fenni a'i gladdu yno yn eglwys Priordy Mair ac mae ei feddrod ysblennydd yno hyd heddiw.