Peiriannydd sifil o'r Alban oedd Robert Stevenson (8 Mehefin 1772 – 12 Gorffennaf 1850). Mae'n enwog fel cynllunydd ac adeiladwr goleudai.
Robert Stevenson | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1772 Glasgow |
Bu farw | 12 Gorffennaf 1850 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | peiriannydd, peiriannydd sifil, dyfeisiwr |
Adnabyddus am | Goleudy Bell Rock |
Tad | Alan Stevenson |
Mam | Jean Lillie |
Priod | Jane Smith |
Plant | David Stevenson, Alan Stevenson, Thomas Stevenson |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin |
Fe'i ganwyd yn Glasgow. Yn ei arddegau daeth yn gynorthwywr i'w lystad, Thomas Smith, a oedd yn beiriannydd i'r Northern Lighthouse Board (Bwrdd Goleudai Gogleddol), a sefydlwyd yn ddiweddar i adeiladu a gweithredu goleudai'r Alban. Dilynodd Stevenson ei lystad yn y swyddfa honno ym 1797 a pharhaodd ynddi hyd 1842. Yn ystod yr amser hwnnw goruchwyliodd waith adeiladu a gwella llawer o goleudai. Cynlluniodd hefyd nifer o bontydd. Ei gyflawniad mwyaf oedd adeiladu Goleudy Bell Rock ym Môr y Gogledd oddi ar arfordir Angus – prosiect hynod o anodd a pheryglus.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.