Ronan Huon
From Wikipedia, the free encyclopedia
'Roedd Ronan Huon (3 Awst 1922 – 18 Hydref 2003) yn awdur, cyhoeddwr, ymgyrchydd ac athro Llydaweg.
Ronan Huon | |
---|---|
Ganwyd | 3 Awst 1922 Saint-Omer |
Bu farw | 18 Hydref 2003 Brest |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, golygydd |
Plant | Tudual Huon |
Fe anwyd Ronan Huon, a elwir hefyd yn René Huon, ar 3 Awst 1922 yn Saint-Omer, ger Lille yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc. 'Roedd yn awdur, ymgyrchydd a golygydd y Llydaweg. Ef sefydlodd Kamp Etrekeltiek ar Vrezhonegerien, KEAV, a fu'n fodd i gannoedd o oedolion i fedru dysgu'r iaith. Bu'n gyfarwyddwr a phrif olygydd y cylchgrawn dylanwadol Al Liamm am dros hanner can mlynedd. Cydnabyddir Huon am ei gyfraniad pwysig i'r Llydaweg a'i llenyddiaeth.
'Roedd rhieni Huon yn dod yn wreiddiol o orllewin Llydaw, o Trégor. Treuliai ei hafau yno gyda'i daid a'i nain a oedd yn “Brezhonegerien” (siaradwyr Llydaweg). Symudodd y teulu yn ôl i Lydaw pan oedd yn ddwy flwydd oed. Dechreuodd ddysgu Llydaweg yn ffurfiol pan oedd yn 17 oed. Addysgwyd ef yn Lannuon ac ym Mhrifysgol Roazhon, (Rennes) lle enillodd radd mewn Saesneg a Diploma mewn Astudiaethau Celtaidd. Yn ystod blwyddyn fel athro yn Abertawe, llwyddodd i wella ei Gymraeg. Dychwelodd o Gymru yn 1949, a bu'n athro Saesneg o fri yn Brest, lle arhosodd tan ddiwedd ei oes. 'Roedd wedi dysgu elfennau'r Gymraeg ac edmygai'r sustem addysgol yng Nghymru a oedd yn caniatáu dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion, yn wahanol i'r system uniaith ganolog yn Ffrainc.