Mae Plaid Genedlaethol yr Alban (Saesneg: Scottish National Party neu'r SNP, Gaeleg yr Alban: Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba neu'r PNA) yn blaid wleidyddol adain chwith-canol Albanaidd sy'n galw am annibyniaeth i'r Alban.[3][4] Sefydlwyd y blaid yn 1934, pum mlynedd wedi sefydlu Plaid Cymru, pan gyfunwyd 'Plaid Genedlaethol yr Alban' (Saesneg: National Party of Scotland neu'r NPS) a 'Phlaid yr Alban' (Saesneg: Scottish Party. John Swinney yw ei harweinydd cyfredol; hi hefyd yw Prif Weinidog yr Alban. Yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, hi yw'r drydedd blaid mwyaf ei haelodaeth yn y Deyrnas Gyfunol, a'r fwyaf yn yr Alban - pedair gwaith yn fwy na Llafur yr Alban, Ceidwadwyr yr Alban a Rhyddfrydwyr yr Alban gyda'i gilydd.[5]

Ffeithiau sydyn Plaid Genedlaethol yr Alban Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba Scottis Naitional Pairtie, Arweinydd ...
Plaid Genedlaethol yr Alban
Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba
Scottis Naitional Pairtie
ArweinyddJohn Swinney
Dirprwy ArweinyddKeith Brown
Arweinydd San SteffanAngus Robertson
Sefydlwyd1934 (1934)
Unwyd gydaPlaid Genedlaethol yr Alban
Plaid yr Alban
PencadlysGordon Lamb House
3 Jackson's Entry
Caeredin
EH8 8PJ
Asgell myfyrwyrFfederasiwn Myfyrwyr Cenedlaetholgar
Asgell yr ifancYoung Scots for Independence
Aelodaeth125,482 [1]
Cysylltiadau EwropeaiddEuropean Free Alliance
Grŵp yn Senedd EwropGwyrddion Ewrop (EFA)
LliwMelyn a du
Seddau'r Alban yn Nhŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)
35 / 59
Seddau'r Alban yn Senedd Ewrop
2 / 6
Senedd yr Alban
62 / 129
Awdurdod Lleol yn yr Alban [2]
421 / 1,227
Gwefan
http://www.snp.org/
Cau

Cynrychiolwyd yr SNP yn San Steffan ers i Winnie Ewing ennill sedd etholaeth Hamilton dros yr SNP ym 1976, flwyddyn wedi i Gwynfor Evans ennill is-etholiad Caerfyrddin, i Blaid Cymru.[6] Pan agorodd drysau Llywodraeth yr Alban yn 1999, yr SNP oedd yr ail blaid gryfaf, a bu'n wrth-blaid am ddau dymor. Yn dilyn Etholiad yr Alban 2007, ffurfiodd Lywodraeth leiafrifol, ac yn 2011 roedd ganddi fwyafrif llethol, a ffurfiodd Lywodraeth yr Alban.[7] Yn 2015 roedd ganddi 105,000 o aelodau, 64 Aelod Llywodraeth yr Alban a 424 cynghorydd sir.[8] Yn 2015, roedd ganddi hefyd 56 allan o 59 Aelod Seneddol a dau aelod yn Senedd Ewrop, lle mae'n rhan o'r grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop ac yn eistedd gydag aelodau'r Cynghrair Ewropeaidd y Blaid Werdd.

Syniadaeth craidd

Mae ei syniadau gwleidyddol yn eitha tebyg i'r rhai Ewropeaidd ac yn gonglfaeni iddynt mae cymdeithas a democratiaeth. Ymhlith ei pholisiau y mae: priodas gyfunryw, gostwng oed pleidleisio i 16, diarfogi niwclear, gostwng trethi, dileu tlodi, codi tai fforddiadwy, addysg am ddim i bawb, gwrthwynebu codi gorsafoedd niwclear, buddsoddi mewn egni adnewyddadwy, dileu treth hedfan a chodi cyflogau nyrsus.[9][10]

Arweinyddiaeth

Thumb
John Swinney, Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban
  • Syr Alexander MacEwen, 1934–1936
  • Andrew Dewar Gibb, 1936–1940
  • William Power, 1940–1942
  • Douglas Young, 1942–1945
  • Bruce Watson, 1945–1947
  • Robert McIntyre, 1947–1956
  • James Halliday, 1956–1960
  • Arthur Donaldson, 1960–1969
  • William Wolfe, 1969–1979
  • Gordon Wilson, 1979–1990
  • Alex Salmond, 1990–2000
  • John Swinney, 2000–2004
  • Alex Salmond, 2004–2014
  • Nicola Sturgeon, 2014–2023
  • Humza Yousaf, 2023–2024
  • John Swinney, 2024–presennol

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.