Saint-Louis, Senegal
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Senegal sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw yw Saint-Louis, neu Ndar yn yr iaith Wolof leol. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin eithaf Senegal ger y ffin a Mauritania, tua 25 km o aber Afon Senegal, a 320 km i'r gogledd o Dakar, prifddinas Senegal. Mae ganddi boblogaeth o tua 176,000 (amcangyfrifiad 2005). Saint-Louis oedd prifddinas gwladfa Ffrengig Senegal o 1673 hyd annibyniaeth y wlad yn 1960 ac mae dylanwad Ffrainc yn amlwg ar y bensaernïaeth arbennig, y diwylliant lleol a'r iaith. O 1920 hyd 1957 bu'n brifddinas gwladfa Ffrengig Mawritania hefyd.
Math | dinas, commune of Senegal, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 176,000, 209,752, 154,555, 258,592, 237,563 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Cheikh Bamba Dièye ![]() |
Cylchfa amser | UTC±00:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Northern Senegal, Four Communes ![]() |
Sir | Saint-Louis Department, French Senegal ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 22 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Senegal ![]() |
Cyfesurynnau | 16.03°N 16.5°W ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Cheikh Bamba Dièye ![]() |
![]() | |
Mae gan y ddinas nifer o adeiladau hardd o'r cyfnod Ffrengig ac mae'r diwylliant lleol wedi cael ei ddisgrifio fel rhan o'r diwylliant Creol traws-Iwerydd, gan ei fod yn gorwedd ger lan Cefnfor Iwerydd ac yn rhannu llawer mewn cyffredin a dinasoedd Creol eraill fel Bahia, Havana a New Orleans.
Mae'n cynnal sawl digwyddiad cerddorol ac artistig ac yn denu twristiaid o bob man, ond yn enwedig o Ffrainc, i gael blas ar ei bywyd a diwylliant unigryw.
Mae Ynys Saint-Louis, lle lleolir yr hen ddinas yng nghanol Afon Senegal, ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/87/St-Louis_Senegal_Street.jpg/320px-St-Louis_Senegal_Street.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/de/SaintLouisGirls.jpg/640px-SaintLouisGirls.jpg)