Sanremo
dinas a chymuned yn yr Eidal / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Sanremo. Fe'i lleolir yn talaith Imperia yn rhanbarth Liguria yn agos iawn i'r ffin â Ffrainc. Mae ganddi boblogaeth o 57,000 o bobl.
Math | cymuned, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 52,787 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Romulus of Genoa |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Imperia |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 55.96 km² |
Uwch y môr | 15 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Apricale, Bajardo, Ceriana, Ospedaletti, Perinaldo, Seborga, Taggia |
Cyfesurynnau | 43.8175°N 7.775°E |
Cod post | 18038 |
Sefydlwyd y ddinas yn ystod y cyfnod Rufeinig ac mae'n adnabyddus fel canolfan dwristiaeth enwog ar hyd arfordir enwog y Riviera. Mae'r ddinas yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol enwog gan gynnwys Gŵyl Gerddorol Sanremo (Festival della canzone italiana di Sanremo) a sefydlwyd yn 1951 ac a ddaeth yn ysbrydoliaeth i gystadleuaeth yr Eurovision a man gorffen ras seiclo undydd 300km o hyd enwog Milano-Sanremo a sefydlwyd yn 1903.
Yn hanesyddol mae'r ddinas yn enwog am gynnal Cynhadledd San Remo a gynhaliwyd yn 1920 ac a luniodd ffiniau a rheolaeth Ffrainc a Phrydain dros y Dwyrain Canol wedi cwymp Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Rhyfel Mawr.