![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Flag_of_Cross_of_Burgundy.svg/langcy-640px-Flag_of_Cross_of_Burgundy.svg.png&w=640&q=50)
Sbaen Newydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhan o Ymerodraeth Sbaen oedd Is-deyrnas Sbaen Newydd (Sbaeneg: Nueva España). Sefydlwyd yr is-deyrnas (Virreinato) yn 1530, ychydig flynyddoedd wedi i Hernán Cortés gipio dinas Tenochtitlan. Parhaodd nes i Mecsico ennill annibyniaeth yn 1821; cydnabuwyd Mecsico fel gwlad annibynnol gan Sbaen yn 1836).
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Flag_of_Cross_of_Burgundy.svg/640px-Flag_of_Cross_of_Burgundy.svg.png)
Prifddinas yr is-deyrnas oedd Dinas Mecsico. Rheolid Sbaen Newydd gan Is-frenin, a benodiid gan frenin Sbaen. Roedd yn ymestyn o Costa Rica hyd at ffîn ogleddol tiriogaethau Sbaen yng Ngogledd America, oedd yn ymestyn i ran o'r hyn sy'n awr yn ffurfio'r Unol Daleithiau. Roedd y Ffilipinau a'r tiriogaethau Sbaenaidd yn y Caribî hefyd yn rhan o Sbaen Newydd, er fod ganddynt fesur helaeth o ymreolaeth.