![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6f/DHFFEST2013AS330.jpg/640px-DHFFEST2013AS330.jpg&w=640&q=50)
Seiclo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Modd o gludiant, difyrrwch a mabolgamp yw seiclo (hefyd beicio neu marchogaeth beic), sef y weithred o reidio beic, beic-un-olwyn, treisicl, beic-pedair-olwyn neu gerbyd tebyg arall a bwerir gan berson.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ca/Cyclist_L_Georget_LOC_04379.jpg/640px-Cyclist_L_Georget_LOC_04379.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6f/DHFFEST2013AS330.jpg/640px-DHFFEST2013AS330.jpg)
Mae nifer o chwaraewyr llwyddiannus ym myd seiclo Cymreig. Un prawf o hyn ydy'r ariannu sylweddol sydd wedi mynd i mewn i seiclo dros y blynyddoedd diweddar yng Nghymru ac ym Mhrydain fel cyfan; yn nodweddiadol, adeiladu Velodrome yng Nghasnewydd.
Ceir sawl math o seiclo gan gynnwys: seiclo trac, seiclo mynydd a seiclo hamddenol neu i'r gwaith. Ar ddiwedd yr 20g roedd gan yr heddlu a phosmyn feiciau. Datblygwyd rhai beiciau er mwyn eu plygu a'u cario ar dren neu fws.